Coron Eisteddfod CFfI Ceredigion 2023
Cysylltodd Elin Calan Jones, Cadeirydd y mudiad y Ffermwyr Ifanc yng Ngheredigion ar y pryd yn mofyn coron ar gyfer yr Eisteddfod. Mae’n ddigwyddiad blynyddol ac yn un o uchafbwyntiau calendar y mudiad. Mae’r goron yn cael ei rhoi i’r llenor buddugol am ysgrifennu stori neu ddarn o ryddiaeth yn seiliedig ar thema sydd wedi ei osod.
Y briff i mi ar gyfer y goron hon oedd torch hydrefol. Gydag Elin yn dalentog iawn wrth osod blodau ac amseriad yr Eisteddfod yn ystod yr Hydref roedd y thema’n berthnasol iawn yn fy marn i gan mae hi fel cadeirydd oedd yn rhoi’r goron yn rodd i’r Eisteddfod.
Gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau er mwyn creu dail ac aeron o frass a chopr dyma’r goron gorffenedig cyflwynwyd i’r aelod buddugol.
Elin Calan Jones, Chair of the Young Farmers' movement in Ceredigion at the time, contacted me requesting a crown for the Eisteddfod. It is an annual event and one of the highlights of the movement's calendar. The crown is awarded to the winning writer for composing a story or a piece of literature based on the set theme.
The brief for me for this crown was an autumnal wreath. With Elin being very talented at arranging flowers and the timing of the Eisteddfod taking place during autumn, the theme seemed very fitting in my opinion, as she, as chair, was the one presenting the crown as a gift to the Eisteddfod.
Using a variety of techniques to create leaves and berries out of brass and copper, the completed crown was presented to the winning member.
